Cynnyddco.uk

Be on the right track and Start living your Potential

Cynnydd
Cynnydd

 

 

 

 

Cefndir y Cwmni

Mae gennym ymhell dros ddeng mlynedd ar hugain o brofiad mewn rhoi arweiniad, cynghori, addysg a hyfforddiant. Rydym wedi ennill y gallu i ddadansoddi sefyllfaoedd a phroblemau a darparu barn wrthrychol, cyngor adeiladol a chefnogaeth.

Gan fod gennym flynyddoedd o brofiad yn y maes hwn, credwn fod angen i arweiniad effeithiol roi ystyriaeth i’r unigolyn cyfan a’i fywyd, yn hytrach na chanolbwyntio ar faterion unigol yn unig. Bydd Cynnydd yn ceisio helpu pobl i’w deall eu hunain yn well, rhoi trefn ar eu pryderon ac agweddau eraill ar eu bywydau sy’n eu dal yn ôl, fel y gallant ddod o hyd i ffyrdd o ddileu rhwystrau gwirioneddol neu dybiedig i’w Cynnydd

Mae gennym hanes o sgiliau rheoli mewn meysydd academaidd, galwedigaethol a busnes mewn perthynas â phobl ac adnoddau. Rydym wedi ennill gwybodaeth ddofn a chyfredol ac ymwybyddiaeth o ddatblygiad personol a gyrfa, a’r agenda ffordd o fyw.

Dros y blynyddoedd rydym wedi datblygu sgiliau rhyngbersonol er mwyn cymell ac annog unigolion a thimau i gyfrannu’n effeithiol at amrywiol agweddau ar fywyd. Mae gan Cynnydd y gallu i gyfathrebu’n effeithiol, delio’n briodol â materion dadleuol a sefyllfaoedd a all arwain at wrthdaro.

Mae gennym y profiad, yr wybodaeth a’r brwdfrydedd i asesu, gwerthuso, monitro a darparu arweiniad a helpu yn unol â’ch galw chi fel cleient...

Bydd yr adran ‘Cynnydd ’ o’r wefan yn darparu’r wybodaeth ganlynol i chi:-

Gobeithio eich bod wedi dod o hyd i’r hyn roeddech yn chwilio amdano. Os nad ydych, mae croeso i chi gysylltu â ni.

Diolch am edrych ar ein gwefan, ac edrychwn ymlaen at glywed oddi wrthych.

 

 

 

© Cynnydd 2008
Cynnydd Brynmor, Ffordd Bangor, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1TP
ffôn: 01286 673198 | ffôn symudol: 07990 893258
 

Dylunwyd gan Delwedd

Argraffu Marciwch Ni E-bostowch ni post@gray-thomas.co.uk Sôn wrth ffrind