|
Mae Cynnyddyn ymrwymo i gadw a gwella safonau Gofal y Cwsmer ar draws pob busnes a sefydliadau. Mae gofal cwsmer ardderchog yn gwneud busnesau a sefydliadau sefyll allan o’r gweddill. Nid prynu cynnyrch neu wasanaeth yn unig, mae’r cwsmer hefyd eisiau pethau fel gofal, cymorth, caredigrwydd, ewyllys da sydd yn mynd i greu ffactor gofal y cwsmer gwych. Mae cwsmer sydd wedi ei fodloni yn fwy parod i ddod yn ôl a hefyd yn canmol y gwasanaeth gyda’i gydweithwyr, teulu a’i ffrindiau.
Yn aml iawn mae perchnogion a rheolwyr yn rhy brysur yn rhedeg eu busnesau eu hunan fel na allant wneud arfarniad gwir a theg o’r gofal ar adlewyrchiad maent yn gobeithio cyflwyno i’r cwsmeriaid.
Yr ydym ni yn Cynnydd yn cynnig gwasanaeth a chymorth hollol annibynnol, ymarferol fydd rhoi strategaethau, gwybodaeth ac argymhellion a fydd yn eich helpu ac yn eich arwain i wneud yn saff fod eich cwsmeriaid yn cael y gofal orau bosib o’r funud y byddent yn cysylltu â chi a defnyddio eich busnes neu’ch gwasanaeth. Mae hyn yn elfen angenrheidiol a phwysig er mwyn sicrhau fod y cwsmer yn ail ddefnyddio eich busnes neu sefydliad.
Gallwn gynnig gwasanaeth fydd yn medru anwytho a/neu ddatblygu eich Polisi Gofal y Cwsmer; gwneud arfarniad ac argymhellion o’ch Gofal y Cwsmer gweithredol. Fydd hyn yn rhoi i chi neu’ch bwrdd rheoli cymorth gwerthfawr fel y byddent yn gallu penderfynu ar welliant ar unwaith neu yn y dyfodol fydd yn rhoi syniad gwrthrychol ar agweddau staff a gofal y cwsmer yn gyffredinol, fydd efallai yn anodd gwneud wrth ddefnyddio adnoddau staff eich hun.
Hefyd fe all yr wybodaeth a gasglwyd fod o gymorth pwysig wrth ffurfio polisi hysbyseb a pherthynas cyhoeddus
Ni fydd angen popeth a gynigir gan Cynnydd arnoch, felly byddwn yn gallu cynnig gwasanaeth ar gyfer cais penodol ganddo’ch, a bydd y cais yma yn cael ei ddelio gydag yn gyflym ac yn effeithiol. Bydd adborth ac awgrymiadau yn cael ei wneud ar lafar a/neu yn ysgrifenedig.
Yr ydym hefyd yn arbenigo mewn helpu busnesau a sefydliadau i ddelio gyda gofal y cwsmer o fewn persbectif Cymreig ( iaith, amgylchedd, tueddiadau cymdeithasol, disgwyliadau'r cwsmer) fel y gallwn gynnig gwybodaeth syniadau fydd eu hangen er mwyn cynnig gofal y cwsmer orau i bobl sydd yn byw ac yn ymweld â Chymru.
Nid yw'r gwasanaeth a gynigir gan Cynnydd yn eilydd i reolaeth busnes da, ond yn hytrach yn gymorth gwerthfawr i ofal cwsmer ardderchog a rheolaeth lwyddiannus a fydd yn cadarnhau polisïau gweithredol ac i gychwyn y fath o newid bydd yn hybu i gynyddu trosiant ac elw
Felly os yr ydych yn meddwl fod Gofal Cwsmer yn bwysig, cysylltwch â John Ian ar (01286) 673198, e-bost post@Cynnyddco.uk.
|