Cynnyddco.uk

Be on the right track and Start living your Potential

Cynnydd
Astudiaethau Achos

 

 

 

 

Yma byddwn yn ychwanegu Astudiaethau Achos i ddangos manteision ein gwasanaethau.

Ffordd Bersonol o Fyw a Chanolbwyntio ar Yrfa

Yn ystod y deng mlynedd a aeth heibio mae camau technolegol wedi arwain at newidiadau aruthrol mewn arferion gweithio a globaleiddio economaidd. Yn yr amgylchedd hwn mae dewisiadau a datblygiad gyrfa wedi dod yn fwy amrywiol felly mae angen i bobl fod yn barod i asesu eu hopsiynau, meddwl am ddyheadau a datblygiad gyrfa a rhoi newidiadau ar waith.

Treuliwch ychydig funudau yn ystyried a ydych yn un neu fwy o’r sefyllfaoedd canlynol:

  • Yn gyflogedig, ond yn anhapus â’r gwaith rydych yn ei wneud
  • Yn ceisio meddwl am gynllun personol a gyrfa
  • Yn ystyried newid swydd neu yrfa
  • Yn ystyried dilyn cwrs llawn neu ran amser
  • Yn cychwyn ar eich swydd gyntaf
  • Yn ailymuno â’r gweithlu
  • Yn ddiwaith
  • Yn mynd i Brifysgol neu Goleg
  • Yn mynd yn hunan-gyflogedig neu’n dechrau eich busnes eich hun
  • Yn cymryd amser i ffwrdd o’r gwaith
  • Yn anelu at nodau gwaith-teulu-personol
  • Yn ymddeol

Os felly, yna gadewch i Cynnydd geisio eich helpu i:

  • Asesu eich sefyllfa bresennol
  • Nodi beth sy’n bwysig i chi a beth sydd ddim
  • Asesu pryderon ac ofnau gwirioneddol neu dybiedig
  • Nodi darpar broblemau a sut i’w goresgyn
  • Edrych ar opsiynau realistig a chadarnhaol
  • Gwella hunan-hyder
  • Bod ym ymwybydol o sialensiau
  • Cymhelliant
  • Ffurfio cynlluniau tymor-byr, tymor-canolig neu dymor-hir

Straen

Mae’n ddyletswydd gyfreithiol ar gyflogwyr i sicrhau nad yw gweithwyr yn mynd yn sâl oherwydd eu gwaith, ac mae’n werth sylwi bod achosion o gwynion yn gysylltiedig â straen wedi cynyddu, sy’n golygu bod busnesau a sefydliadau yn dioddef mewn meysydd allweddol fel amser, arian a phobl.

Os ydych yn meddwl y gallai rhywfaint o’r wybodaeth uchod fod yn destun pryder i’ch sefydliad gadewch i ni yn Cynnydd roi cyfle i’ch gweithwyr geisio datrys y pwysau negyddol hyn a datblygu arferion gwaith cadarnhaol.

Gobeithio eich bod wedi dod o hyd i’r hyn roeddech yn chwilio amdano. Os nad ydych, mae croeso i chi gysylltu â ni.

Diolch am edrych ar ein gwefan, ac edrychwn ymlaen at glywed oddi wrthych.

 

 

 

© Cynnydd 2008
Cynnydd Brynmor, Ffordd Bangor, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1TP
ffôn: 01286 673198 | ffôn symudol: 07990 893258
 

Dylunwyd gan Delwedd

Argraffu Marciwch Ni E-bostowch ni post@gray-thomas.co.uk Sôn wrth ffrind