Cynnyddco.uk

Be on the right track and Start living your Potential

Cynnydd
Nodau ac Amcanion

 

 

 

 

Dyma Genhadaeth a Nodau ac Amcanion Cynnydd:-

Cenhadaeth
Ein cenhadaeth yw helpu pobl i ennill, i gynnal a symud ymlaen gan ddilyn y ffordd o fyw o’u dewis sy’n werthfawr, yn foddhaol, yn realistig ac yn iawn iddyn nhw.

Nodau ac Amcanion

  • Byddwn yn helpu ac yn cefnogi pobl i wneud penderfyniadau cadarnhaol a fydd yn eu tywys at ffordd o fwy mwy boddhaol a bodlon o’u dewis
  • Helpu i asesu, mentora, cefnogi ac ysgogi unigolion neu grwpiau fel y gallant reoli eu bywydau yn y ffordd sydd orau ganddyn nhw
  • Cefnogi pobl yn effeithiol yn unol â’u hanghenion unigol
  • Helpu a llywio sefydliadau fel y gallant roi i’w cleientiaid, eu gweithwyr ac i gymdeithas y safon byw a fydd fwyaf buddiol iddynt
  • Meithrin a gwella partneriaethau a chysylltiadau buddiol â sefydliadau eraill, cyflogwyr, ysgolion, colegau, busnesau, elusennau ac asiantaethau’r llywodraeth er mwyn gwella safon a ffordd o fyw’r cleientiaid
  • Cred Cynnydd y gall alluogi pobl i symud ymlaen a ffynnu drwy eu helpu i ennill mwy o hunan-hyder
  • Bydd ein gwasanaeth yn ffactor allweddol wrth ddatblygu hunan-barch a ffordd o fyw fwy gwerthfawr yn sgil hynny
  • Tywys a chefnogi busnesau a sefydliadau mewn perthynas â lles a chynnydd eu gweithwyr
  • Helpu a thywys pobl anfodlon yn ein cymunedau i anelu at a chyflawni ffordd well o fyw
  • Mae Cynnydd wedi ymrwymo i gefnogi pobl mewn cymdeithas gynhwysol fel eu bod yn cael y cyfle i gyflawni eu potensial
  • Ceisio meithrin agwedd gadarnhaol mewn pobl a chred y gallant gyflawni pethau
  • Credwn fod pobl yn haeddu teimlo mor hapus, mor hyderus ac mor gyflawn ag y bo modd
  • Bydd Cynnydd bob amser yn ceisio canolbwyntio ar y dyfodol, gan gydnabod effeithiau’r gorffennol yr un pryd, ac y dylai pobl allu eu derbyn eu hunain ond eto wneud newidiadau a fydd yn gwella eu bywydau
  • Mae Cynnydd wedi ymrwymo i geisio gwneud cymdeithas yn well lle i fyw trwy dywys pobl i ddarganfod a datblygu eu nodweddion a’u talentau unigryw eu hunain

Gobeithio eich bod wedi dod o hyd i’r hyn roeddech yn chwilio amdano. Os nad ydych, mae croeso i chi gysylltu â ni.

Diolch am edrych ar ein gwefan, ac edrychwn ymlaen at glywed oddi wrthych.

 

 

 

© Cynnydd 2008
Cynnydd Brynmor, Ffordd Bangor, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1TP
ffôn: 01286 673198 | ffôn symudol: 07990 893258
 

Dylunwyd gan Delwedd

Argraffu Marciwch Ni E-bostowch ni post@gray-thomas.co.uk Sôn wrth ffrind